#

Y Pwyllgor Deisebau | 13 Tachwedd 2018
 Petitions Committee | 13 November 2018
 
 
 ,Papur Briffio ar gyfer y Pwyllgor Deisebau 
 
  

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-848

Teitl y ddeiseb: Rhowch gyfle i Fyfyrwyr Cymru ddewis yr opsiwn astudio gorau ar eu cyfer hwy

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr un trefniadau ariannu ar gael i fyfyrwyr ble bynnag maen nhw’n dewis astudio, a bod yr opsiynau ariannu hefyd ar gael i fyfyrwyr sydd eisoes wedi dechrau ar eu hastudiaethau.

Ar hyn o bryd mae gan fyfyrwyr y dewis i astudio yn y DU ac Iwerddon ac mae rhywfaint o opsiynau astudio yn Ewrop ar gael, ond pam na allant astudio ar gyfer gradd gydnabyddedig ledled y byd os mai’r rhaglen y maent yn ei dewis yw’r un fwyaf addas i’w hamcanion gyrfa cyffredinol.

Yn 2017, derbyniwyd Georgia Ellis ar y cwrs Doethuriaeth mewn Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Quinnipiac yn yr Unol Daleithiau. Mae’r radd bagloriaeth yn radd y celfyddydau breiniol sy’n cwmpasu amrywiaeth o bynciau safonol, gan gynnwys siarad cyhoeddus, ac fel rhan o’r broses o ennill ei gradd israddedig bydd Georgia’n astudio maes arall o’i dewis, sef Astudiaethau Busnes.

Er bod y rhain yn fanteision gwych, dewisodd Georgia yr opsiwn astudio hwn gan mai ei huchelgais yw dod yn ffisiotherapydd ar gyfer tîm chwaraeon yn y pen draw, ac oherwydd y cysylltiad â thimau chwaraeon y byddai’n ei gael yng nghanolfan bwrpasol hyfforddiant iechyd y Brifysgol arbennig hon.

Pam na all myfyrwyr fanteisio ar yr un trefniadau ariannu ag y byddai ganddynt yma yn y DU ar gyfer cyllido opsiynau astudio eraill. Mae stori Georgia yn ddim ond un enghraifft o safon dda myfyrwyr y DU, ond mae llawer mwy.

1.       Y cymorth presennol i fyfyrwyr yng Nghymru

1.1           Cyflwyniad

Mae’r system cymorth i fyfyrwyr yng Nghymru yn cael ei diwygio o ganlyniad i’r argymhellion yn yr Adolygiad o gyllido addysg uwch a threfniadau cyllido myfyrwyr yng Nghymru gan yr Athro Diamond (yr Adolygiad Diamond), a gyhoeddwyd ym mis Medi 2016. Fodd bynnag, un peth sydd heb newid yw bod yn rhaid i fyfyrwyr fod yn astudio mewn sefydliad addysg uwch neu goleg a ariennir yn gyhoeddus ac a leolir yn y DU, neu ar gwrs a gymeradwywyd yn benodol mewn sefydliad preifat.

1.2           Trosolwg o’r diwygiadau

Ymhlith materion eraill, argymhellodd yr Adolygiad Diamond y dylid newid ffocws y system gymorth o grantiau ffioedd dysgu i gynnig rhagor o gymorth â chostau byw. Fodd bynnag, nid yw’r diwygiadau wedi newid y meini prawf sylfaenol o ran cymhwyster, felly mae’n rhaid i ddarpar fyfyrwyr astudio mewn sefydliad yn y DU o hyd, ar gwrs a gymeradwywyd yn benodol gan Lywodraeth Cymru.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion yr Adolygiad Diamond. O ganlyniad i hyn, o fis Medi 2018 bydd myfyrwyr cymwys o Gymru yn gallu cael:

§    benthyciad o £9,000 y flwyddyn i dalu ffioedd dysgu os ydynt yn astudio yng Nghymru; £9,250 os ydynt yn astudio yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu’r Alban; neu £6,165 os ydynt yn astudio mewn prifysgol neu goleg preifat yn y DU ar gwrs a ddynodir gan Lywodraeth Cymru; ac

§    uchafswm o £7,650 os ydynt yn byw gartref; £9,000 os ydynt yn astudio i ffwrdd o gartref y tu allan i Lundain; neu £11,250 os ydynt yn astudio yn Llundain, mewn benthyciadau ad-daladwy a/neu grantiau nad oes yn rhaid eu had-dalu ar gyfer costau byw. Mae lefel y cymorth ar ffurf benthyciad neu grant yn dibynnu ar incwm aelwyd yr ymgeisydd, gyda’r myfyrwyr o’r aelwydydd tlotaf (incwm blynyddol o £18,370 neu lai) yn cael y rhan fwyaf o’r cymorth fel grant; a

§    Grant heb brawf modd o £1,000 nad oes yn rhaid ei ad-dalu.

Mae Llywodraeth Cymru yn disgrifio’r system newydd hon fel y pecyn cymorth mwyaf hael i fyfyrwyr yn y DU. Mae’r Gwasanaeth Ymchwil wedi llunio canllaw sy’n cynnwys mwy o wybodaeth am y system newydd ar gyfer cymorth i fyfyrwyr.

Yn gyffredinol, i fod yn gymwys ar gyfer y gefnogaeth hon mae’n rhaid i fyfyrwyr:

§    fod yn wladolyn y DU neu fod â ‘statws preswylydd sefydlog’ (dim cyfyngiadau ar hyd yr amser y gallwch aros yn y DU);

§    yn byw yng Nghymru fel arfer; ac

§    wedi bod yn byw yn y DU ers 3 blynedd cyn dechrau’r cwrs.

At ei gilydd, mae cymhwysedd hefyd yn dibynnu ar fodloni pob un o’r meini prawf a ganlyn:

§    mae’n rhaid i’r cwrs arwain at gymhwyster cydnabyddedig (nid oes yn rhaid iddo fod yn radd gyntaf draddodiadol fel BA neu BSc. Mae’r meini prawf hefyd yn cynnwys cymwysterau HND a HNC, graddau sylfaen ac eraill);

§    mae’n rhaid i’r sefydliad neu’r coleg addysg uwch gael ei ariannu’n gyhoeddus a rhaid iddo fod yn y DU; neu, os yw’r myfyriwr o dan sylw yn astudio mewn sefydliad preifat, mae’n rhaid iddo ddilyn cwrs sydd wedi’i gymeradwyo’n benodol gan Lywodraeth Cymru;

§    i gael y Benthyciad Cynhaliaeth, mae’n rhaid i’r ymgeisydd fod o dan 60 oed ar ddechrau’r cwrs, ond nid oes terfyn ar gyfer y Benthyciad Ffioedd Dysgu a’r Grantiau.

2.       Barn Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio bod ei threfniadau ariannol presennol â Llywodraeth y DU yn golygu nad yw’n gallu cynnig unrhyw fenthyciadau ar gyfer ffioedd dysgu a benthyciadau cynhaliaeth i fyfyrwyr sydd wedi dewis astudio y tu allan i’r DU.

Fodd bynnag, gwnaeth yr Adolygiad Diamond yr argymhelliad a ganlyn, yn amodol ar y rheoliad angenrheidiol:

Llywodraeth Cymru i ystyried y posibilrwydd o gynnal cynllun peilot i weld a yw hi’n bosibl neu’n ddymunol ymestyn y pecyn cymorth i fyfyrwyr y tu allan i’r DU a’r UE – i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru sy’n dewis astudio ymhellach o gartref ar gyfer eu rhaglen radd gyfan. (Byddai’r cynllun peilot arfaethedig ar gyfer astudiaethau mewn sefydliadau dielw sydd â hanes llwyddiannus o gynnig darpariaeth o safon).

Mae papur Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod yn gefnogol o’r egwyddor o gefnogi myfyrwyr o Gymru i astudio dramor. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwaith ymchwil i bosibiliadau cynllun o’r fath, sef Cynllun Peilot Astudio Dramor: Adroddiad Pennu Cwmpas a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2018. Mae Llywodraeth Cymru yn adrodd bod y gwaith ymchwil hwn wedi canfod:

[...] lefelau isel o alw cudd, anhawster wrth bennu'r galw am gludadwyedd llawn a dim ond ychydig o gefnogaeth gan randdeiliaid ar gyfer darparu grant/benthyciad cynhaliaeth i astudio cwrs gradd llawn dramor.     

Mae Llywodraeth Cymru wedi trafod canfyddiadau’r adroddiad a bydd yn cadarnhau’r sefyllfa mewn datganiad i’r Senedd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth yn nodi’r hyn a ganlyn am unrhyw gynlluniau peilot yn y dyfodol:

Mae'n bwysig nodi na fydd y peilot yn gallu cynnig cymorth ariannol i fyfyrwyr i astudio cwrs gradd lawn mewn prifysgol dramor. Bydd y peilot yn canolbwyntio ar gyfnodau byr o astudio, er mwyn caniatáu i'r nifer mwyaf o fyfyrwyr allu manteisio ar y cyfle hwnnw.